top of page
Porth y Santes..jpg

Datblygiadau

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi penderfynu defnyddio'r enw Llyn Celanedd yn lle'r enw The Spinnies ar y warchodfa yn Aberogwen ger Tal-y-bont yn Arfon.  

Yr Arolwg Ordnans

Mae'r Arolwg Ordnans yn ystyried rhoi Coed Cerrig y Frân yn lle The Mushroom Garden (Nant Ffrancon, Gwynedd), a Llwybr Gwregys yn lle Heather Terrace Path (Nant y Benglog, Sir Conwy) ar eu mapiau.

Llun - Coed Cerrig y Frân, Nant Ffrancon.jpg
49409612823_f12ad47f4a_5k.jpg

Cefnogaeth Cyngor Gwynedd

Ar 14 Mai eleni rhoddwyd y cynnig canlynol gerbron Cyngor Gwynedd gan y Cynghorydd Einir Wyn Williams ac fe'i pasiwyd yn unfrydol. Yn dilyn pasio'r cynnig, mae Cyngor Gwynedd yn anfon at yr Arolwg Ordnans yn galw ar yr asiantaeth i fabwysiadu'r egwyddor o ddefnyddio enwau lleoedd tirweddol Cymraeg yn unig ar eu mapiau yng Nghymru, ac yn anfon at Lywodraeth Cymru a chynghorau sir eraill Cymru i wneud yr un modd.

Llywodraeth Cymru

Bydd Llywodraeth Plaid Cymru, yn dilyn addewid yn ei maniffesto, yn deddfu i warchod enwau lleoedd Cymraeg.

Llun - arwydd Porth Neigwl - Hell's Mouth.jpg

Yn dilyn cais, mae Cyngor Gwynedd am osod arwyddion newydd yn Llŷn a fydd yn cynnwys 'Porth Neigwl' heb yr enw 'Hell's Mouth', ac yn cynnwys 'Porth Oer' heb yr enw 'Whistling Sands'. Cafwyd addewid y bydd yr Adran Priffyrdd yn rhoi blaenoriaeth i'r mater.

Llun - coflech Cwt Dafydd Ross.jpg

Cwt Dafydd Ross

Mae Cyngor Cymuned Llanllechid, gyda chefnogaeth Menter Iath Gwynedd, wedi gosod coflech ar Gwt Dafydd Ross, lloches bugeiliaid ar Foel Grach, un o fynyddoedd cadwyn y Carneddau yn Eryri. Bydd disgwyl i'r Arolwg Ordnans, Tîm Achub Mynydd Ogwen, gwefannau cerddwyr a'r gwasanaethau brys ddefnyddio'r enw o hyn ymlaen.. 

Allt Marchogion 

Ar 14 Mai eleni rhoddwyd cynnig gerbron Cyngor Gwynedd gan y Cynghorydd Einir Wyn Williams fod y Cyngor yn anfon at yr Arolwg Ordnans yn galw ar yr asiantaeth i fabwysiadu'r egwyddor o ddefnyddio enwau lleoedd tirweddol Cymraeg yn unig ar eu mapiau yng Nghymru, ac yn anfon at Lywodraeth Cymru a chynghorau sir eraill Cymru i wneud yr un modd. Cafodd y cynnig ei basio'n unfrydol. 

Y Glyderau, Cwm Cneifion

Cydlynydd: Emyr Roberts

Cyswllt Cylch yr Iaith: Ieuan Wyn

Trefnydd Cyhoeddusrwydd: Rhys Parry

bottom of page