Sut allwn ni eu gwarchod i'r dyfodol?
1. Bod Llywodraeth Cymru yn deddfu i warchod enwau lleoedd Cymraeg yn yr amgylchedd naturiol a'r amgylchedd adeiledig rhag cael eu disodli gan enwau Saesneg.
2. Bod yr Arolwg Ordnans a chynhyrchwyr mapiau eraill yn nodi’r enw Cymraeg yn unig lle bo enw Cymraeg ac enw Saesneg ar hyn o bryd, ac yn ychwanegu enwau lleoedd Cymraeg sydd heb fod ar eu mapiau ar hyn o bryd.
3. Bod cronfeydd data'r cynghorau sir yn cynnwys enwau lleoedd Cymraeg yn unig.
4. Bod Cyngor Mynydda Prydain yn defnyddio ei ddylanwad i wneud yn siŵr nad yw enwau Saesneg ar ddringfeydd yn disodli enwau lleoedd Cymraeg.
5. Bod cynghorau sir a chymuned yn hyrwyddo prosiectau cymunedol i gofnodi enwau lleoedd Cymraeg.
6. Bod enwau lleoedd Cymraeg yn cael eu cyflwyno yn yr ysgolion yn drawsgwricwlaidd drwy gydgysylltu iaith, llên, celf, daearyddiaeth, hanes ac astudiaethau'r amgylchedd.
