Nod ac Amcanion yr Ymgyrch
Gwarchod enwau lleoedd Cymraeg yn yr amgylchedd naturiol, sef enwau tirweddol (topograffig; daearyddol) ac yn yr amgylchedd adeiledig (enwau tai ac adeiladau eraill, stadau, strydoedd, ffyrdd, lonydd, pontydd ac ati).
Ar hyn o bryd, rydym yn canolbwyntio ar enwau tirweddol, ac ar fapiau'r Arolwg Ordnans, yr asiantaeth fapio swyddogol, yn arbennig. Mae dau ddiffyg amlwg, sef
1. Llawer o enwau lleoedd Cymraeg heb eu cynnwys ar y mapiau.
2. Gosod enwau Saesneg ochr yn ochr ag enwau Cymraeg, e.e. Yr Wyddfa/Snowdon; Bala Lake/Llyn Tegid; Whistling Sands/Porth Oer; Cors Ddygai/Malltraeth Marsh.
Dylid defnyddio'r enwau Cymraeg yn unig
Yr Arfordir


Fel enwau yn y mynydd-dir a'r gwastadeddau, mae llawer o enwau lleoedd ar yr arfordir - enwau porthau, traethau, creigiau, clogwyni, ynysoedd a baeau - yn cael eu disodli gan enwau Saesneg (gweler y dudalen Enwau Saesneg).